top of page

Gwersi Sylfaenol Pypis Bach (6 x sesiwn 1 awr)

Trosolwg

Pwrpas: Dysgu cŵn bach i setlo yn llonydd,  bod yn hyderus ac yn optimistaidd wrth feithrin perthynas agos â'u teulu.

Manteision Allweddol: Gwell hyfforddiant tÅ·, strategaethau ar gyfer ymdopi gyda gwaith dannedd y pypi bach, gwell patrymau cysgu, a phrofiadau cymdeithasoli cadarnhaol.

​

Nodweddion

Hyfforddiant Llonyddu a Hyder: Technegau i helpu'ch ci bach i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd amrywiol.

Hyfforddiant TÅ·: Awgrymiadau ac arferion ar gyfer hyfforddiant tÅ·.

Rheoli Cnoi Cŵn Bach: Strategaethau i leihau a rheoli ymddygiad gwaith dannedd cŵn bach.

Hyfforddiant Cwsg: Canllawiau i annog eich ci bach i gysgu drwy'r nos.

Profiadau Cymdeithasoli: Profiadau strwythuredig i sicrhau bod eich ci bach yn cymdeithasoli'n dda gyda phobl ac anifeiliaid eraill, gan roi digon o gyfleoedd i'ch ci bach ddysgu bod profiadau a phethau newydd yn bositif.

​

Strwythur y Cwrs

1. Sesiwn Cyflwyno: Dewch i gwrdd â'ch hyfforddwr a chael trosolwg o'r cwrs a beth i'w ddisgwyl.

2. Sesiynau un-i-un Wythnosol: Sesiynau personol yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar hyfforddiant.

3. Gwaith Ymarferol: Gweithgareddau ymarferol i atgyfnerthu'r dysgu.

4. Dysgu gyda'ch Gilydd fel Teulu: Manteision cael y teulu cyfan i gymryd rhan er mwyn sicrhau cysondeb a chreu cartref cytûn.

5. Sesiynau Holi ac Ateb: Cyfleoedd i ofyn cwestiynau a chael cyngor personol.

​

Pam Dewis Ni?

Hyfforddwr Profiadol: Hyfforddwr Cŵn cymwys a phrofiadol ac Ymgynghorydd Ymddygiad gyda QTS ar gyfer dysgu pobl hefyd.

Yn Cynnwys y Teulu Cyfan: Yn sicrhau cysondeb mewn hyfforddiant ac yn helpu i greu cartref cytûn.

Cyngor wedi'i Addasu: Syniadau a chyngor personol sy'n addas i anghenion unigryw eich ci bach.

Dathlu Llwyddiant: Mae croeso i gleientiaid anfon eu straeon llwyddiant i'w postio ar dudalennau Cŵn Clyfar i ddathlu. Siartiau gwobrwyo i blant ddathlu eu mewnbwn yn yr hyfforddiant.

​

Archebwch Eich Lle

• Cysylltwch â Ni am Fwy o Wybodaeth

bottom of page